Hanes Angela Kerr
Efallai eich bod eisiau rhywbeth afrad a beiddgar, neu rywbeth ychydig bach yn wahanol. Fel gof arian a chynllunydd gemwaith cymwys, mae Angela Kerr wedi creu nwyddau hardd sy’n addas i unrhyw achlysur.
Prif ffocws Angela yw cynllunio ar gyfer priodasau ac mae hi wedi bod yn boblogaidd gyda llawer o barau oherwydd ei gallu i sicrhau bod nwyddau a gemwaith y briodasferch, y morwynion priodas, a hyd yn oed y deisen, yn cyd-fynd â’i gilydd.
Mae ei theisennau priodas ‘Disglair’ wedi bod yn llwyddiant mawr, gan roi cyfle i barau gadw darnau o emwaith sydd wedi’u teilwra’n arbennig fel atgof o’u diwrnod arbennig.
Mae’n defnyddio’r deunyddiau gorau o bob rhan o’r byd ac mae’r canlyniadau yn syfrdanol. Defnyddia arian pur, perlau a Grisialau Swarovski, cerrig lled-werthfawr anghyffredin a gleiniau gwydr penigamp o hen ffatrïoedd gwydr Gorllewin yr Almaen a Thsiecoslofacia i greu dyluniadau coeth ac unigryw.
Mae’n bosib teilwra ei chasgliadau mewn lliwiau penodol, y gellwch eu dewis o’i detholiad eang, i gydweddu ag unrhyw achlysur. Mae hi hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddarnau unigryw, a gellir eich sicrhau na fydd modd eu gweld mewn unrhyw fan arall!
Fel cyffyrddiad arbennig iawn, mae Angela’n cynnig eitemau sydd wedi’u dylunio’n arbennig er mwyn cynllunio a chreu darn cwbl unigryw yn arbennig ar eich cyfer chi.
I wneud apwyntiad ar gyfer cynllunio eitemau yn arbennig neu i weld ei chasgliadau parod yn ei stiwdio ym Mharc Glynllifon, gellwch gysylltu ag Angela trwy gyfrwng y Gymraeg trwy e-bost neu ffôn 01286 830839.


