Wrth i chi drafod cynlluniau gyda hi yn ei stiwdio, gan ddefnyddio ei llyfr o samplau a’i phortffolio i roi syniadau i chi, bydd yn archwilio’r gwahanol opsiynau sydd ar gael gyda chi, cyn mynd ati i wneud brasluniau o gynlluniau cychwynnol. Gellwch weld eich syniadau yn dechrau dod yn fyw, boed yn gadwyn hardd neu’n deisen briodas drawiadol i fod yn ffocws i’r brecwast priodas. Bydd yn trafod gyda chi pob agwedd ar eich priodas gan gynnwys cynllun y ffrog, y lliwiau a’r thema ac yn eich cynghori ynghylch y lliwiau a’r steiliau cywir i gyd-fynd â’r rhain.
Cewch drefnu cyfarfod yn y stiwdio trwy wneud apwyntiad.
I wneud apwyntiad ar gyfer cynllunio eitemau yn arbennig neu i weld ei chasgliadau parod yn ei stiwdio yng Nglynllifon, gellwch gysylltu ag Angela trwy gyfrwng y Gymraeg trwy e-bost neu ffôn 01286 830839.


